Mari'r Fantell Wen - Sgwrs Guto Roberts

 

Daw’r canlynol o lyfr a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, “Y Fo Guto” a olygwyd gan Meredydd Evans. Un o sgyrsiau yw hon a gyflwynodd Guto Roberts, Rhoslan i’r rhaglen radio Rhwng Gwyl a Gwaith yn Hydref 1974. Diolchir am y caniatâd i’w chynnwys yma.

Mari’r Fantell Wen

‘Wn i ddim a fydd rhieni heddiw (wrth geisio cadw rheolaeth ar eu plant) yn bygwth y plant a dweud fel y bydd i ryw Fwci Bo neu Fol-ol ddwad i gipio plant drwg a mynd â nhw i ffwrdd mewn rhyw sach mawr.

P’run bynnag, mi fyddai hynny yn digwydd ‘stalwm – hynny ydi, y bygwth! ‘Chlywais i am neb erioed gafodd ei gipio. Ambell hen drempyn go adnabyddus fyddai’r bwgan weithiau, dro arall rhyw gymeriad lleol ond heb fod yn hollol yr un fath â phawb arall, megis.


Ym mhentref Llanystumdwy  hyd at dridegau’r ganrif hon fe ddywedid wrth blant fyddai’n gwrthod dod i’r ty pan fyddai hi’n nosi y byddai Mari’r Fantell Wen yn bownd o gael gafael ynddynt.

Tridegau’r ganrif hon ddwedais i, ynte? Mae hynna’n ddiddorol gan fod Mari’r Fantell Wen wedi marw er 1789. Dyna ichi felly gant a hanner o flynyddoedd ynghynt ac eto yr oedd hi’n dal i gael ei bygwth fel un beryglus i blant ddod o fewn ei gafael hi (er na chlywais i fod Mary Evans wedi gwneud dim niwed i’r un plentyn erioed).

Ie, Mary Evans oedd ei henw iawn hi. Fe’i ganwyd hi yn 1735. Fe ddywedir ei bod hi wedi hannu o Sir Aberteifi ac mai o Sir Fôn yr aeth hi i Sir Feirionnydd yn rhywle rhwng 1774 ac 1780; dod yn forwyn at offeiriad Maentwrog, meddai rhai, ond mae eraill yn dweud mai dod i fyw i le o’r enw Breichiau, yn ochr Maentwrog o blwy’ Llandecwyn ddaru hi.


P’run bynnag, roedd Mary Evans wedi gadael ei gwr yn Sir Fôn ac erbyn hynny yn cyd-fyw â gwr dynes arall. Roedd y ddau yn honni nad oedd eu priodasau cyntaf ond cnawdol ond bod eu priodas hwy ill dau yn ysbrydol, ac yn iawn, ac fe anwyd merch iddyn’ nhw o’r briodas hon. Cyn hir, fodd bynnag, mi adawodd y gwr hi ond mi arhosodd hi yn yr ardal.


Roedd Mary Evans yn honni fod ganddi hi awdurdod ysbrydol ac mi lwyddodd i gael nifer fawr o ddilynwyr; ar draws 60 – 70 i gyd. Roedd hi’n dweud, hefyd, ei bod hi yn un â Christ ac mai yr un peth oedd dod ati hi â dyfod at Grist.


Roedd hi hefyd yn honni ei bod hi wedi ei dyweddio i Grist ac mi ddywedodd ei bod wedi priodi Cyfiawnder. Canlyniad hyn, mae’n debyg, barodd i’w dilynwyr hi drefnu Neithior Briodas yn nhafarn y Ty Isaf yn Llan Ffestiniog, a Mari y tro hwnnw wedi ei gwisgo mewn mantell goch, ac yn wir mi gerddodd hi a’i dilynwyr o’r Dafarn i’r Eglwys, yna’n ôl wedyn i’r Dafarn a thelynor yn arwain yr orymdaith.


A phwy alwodd yn y Dafarn yn ystod y rhialtwch ond un o hen Gynghorwyr y Methodistiaid sef Emrys Evans, Y Fedw Arian. Galw am ei lasiad, yn ôl arfer y cyfnod yr oedd o, wrth gwrs, a dyna fo’n gofyn beth oedd yr holl rialtwch a dawnsio, ac meddai rhywun wrtho:

“O! neithior sy’ ‘ma i Mari’r Fantell Wen a Iesu Grist. Ewch i mewn atyn nhw, William Evans.”

“Na wir, waeth imi heb,” meddai William Evans. “Ella daw y gwr ifanc ato ni i’r Capal.”


Fel mae’r enw yn awgrymu, mantell wen fyddai Mari yn arfer ei gwisgo, math o wlanen wen, debyg meddent hwy i’r math a wisgid mewn rhan o Sir Aberteifi yn y cyfnod hwnnw.


Ar y Sul fel arfer y byddai Mari a’i dilynwyr yn cyfarfod a hynny mewn llecynnau o’r neilltu, ar ben bryn neu fynydd weithiau, ac wedi’r cyfarfyddiadau hyn a mynd trwy ryw fath o wasanaeth (ym mha un y byddai Mari ei hun yn drallen rhannau o’r Beibl) mi fyddent hefyd yn gwneud swn mawr trwy weiddi rhywbeth tebyg i “Pw-pw-hwi, Pw-pw-hwi, Pw-pw-hwi!” ac yna yn gorymdeithio i’r Eglwys leol ac yn tarfu ar y gwasanaeth, ar adegau, o leiaf.


Roedd gan Mari ei chylchdaith i’r cyfarfodydd hyn, lleoedd fel Llanfihangel-y-Traethau, Llandecwyn, Maentwrog, Ffestiniog, Penmachno a Phenrhyndeudraeth, ac mi fyddai’n ymweld â phob un o’r ardaloedd yn eu tro. Dywedwch ei bod hi’n mynd i Benmachno. Mi fyddai Mari wedyn yn aros yn nhy neu dai rhai o’r canlynwyr am y gweddill o’r wythnos ond bob dydd Gwener mi fyddai’n dod i le a elwir y Borth Las ger Talsarnau; ac mi ddywedir bod yno garreg fawr wrth y ty yn y Borth Las. Mi fyddai Mari wedyn yn mynd i ben y garreg a chyhoeddi yn null ‘town criar’ yn debyg i hyn:

“Hwi-hâ-hwi-hâ-hwi-hâ! Byddwn yn y fan a’r fan yr wythnos nesaf.”


Mae’n ddiamau fod gan Mari ddylanwad mawr ar ei dilynwyr. Yn wir i chi, roedd hi wedi llwyddo i’w darbwyllo nhw na fyddai hi farw. A phan fu hi farw yn 1789 yn y Borth Las mi gadwyd y corff heb ei gladdu am hir gan ddisgwyl iddi ddadebru. Ond yn y diwedd claddu fu raid a hynny yn Llanfihangel-y-Traethau sydd rhwng Talsarnau a Harlech. Ar y garreg fedd, sydd i’w gweld yn y fynwent hyd heddiw, cewch y geiriau hyn:

Yma y claddwyd Mari Evans,

Hydref y 28 yn y flwyddyn 1789

Yn 54 oed.